Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Mehefin 2022
Amser:
14.00 -
15.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12873
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Jayne Bryant AS (yn lle Buffy Williams AS) Altaf Hussain AS (yn lle Joel James AS) |
Tystion: |
Mark Hooper, Deisebydd Shavanah Taj, TUC Cymru Joe O'Connor, Global 4 Day week |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
Mynychodd Jane Bryant AS y cyfarfod yn lle Buffy Williams AS.
Mynychodd Joel James AS ran gyntaf y cyfarfod ond oherwydd
ymrwymiadau ar bwyllgor arall anfonodd ei ymddiheuriadau ar gyfer
yr ail hanner. Ymunodd Altaf Hussain AS fel dirprwy o eitem 3 y
cyfarfod.
Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS eu bod yn adnabod Mark Hooper, prif ddeisebydd P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru a Shavanah Taj, a fydd ill dau yn rhoi tystiolaeth yn ystod eitem 2 busnes heddiw.
2 Sesiwn dystiolaeth - (Panel 1) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Hooper, y prif ddeisebydd a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngres Undebau Llafur Cymru.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1282 Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y deisebydd eisoes wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru ac wedi cael gwahoddiad i ddrafftio cynnig ar gyfer y Dirprwy Weinidog, estynnodd yr Aelodau longyfarchiadau i’r deisebydd, mynegwyd eu gwerthfawrogiad o’r angen i gadw a hyrwyddo barddoniaeth Gymraeg, a chytunwyd i gau'r ddeiseb.
Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau hefyd o'r gwahoddiad i fynychu'r cyflwyniad yn y Senedd ar Farddoniaeth Gymraeg sydd i'w gynnal ar 28 Mehefin.
3.2 P-06-1283 Dylid cyflwyno system orfodol o ficrosglodynnu cathod yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y ffaith bod Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried system orfodol o ficrosglodynnu cathod, ac y bydd newidiadau yn y dyfodol o ran sganio a chronfeydd data yn cael eu hystyried fel rhan o waith parhaus gyda Llywodraeth y DU. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.
3.3 P-06-1284 Cadwch ysgolion ar agor yn nhymor y Gwanwyn 2022.
Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod ysgolion yn gweithredu fel arfer, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.4 P-06-1285 Codi'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored ar unwaith
Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod digwyddiadau chwaraeon awyr agored wedi ailddechrau fisoedd yn ôl, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1257 Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y deisebydd gyda chynnydd araf Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi deddfwriaeth ar waith i wella hawliau lesddeiliaid, ychydig iawn y gall y Pwyllgor ei wneud ymhellach, ar hyn o bryd, ac felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.2 P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater yn waith sy’n mynd rhagddo ac nad oes llawer o waith pellach y gallant ei wneud fel Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.
4.3 P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi gwneud rhywfaint o waith manwl yn ddiweddar ar adolygu’r rheoliadau, ac wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn sgil y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ar y mater, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
5 Sesiwn dystiolaeth - (Panel 2) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i gymryd tystiolaeth bellach ar y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf ar 11 Gorffennaf.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn rhithwir, gan Joe O’Connor, Prif Swyddog Gweithredol, Global 4 Day Week.
8 Materion allweddol - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion o bwys ond cytunodd i ailddechrau'r drafodaeth yn ddiweddarach pan fydd holl Aelodau'r Pwyllgor yn bresennol.